1. |
Dôl y Plu
04:04
|
|||
Cau dy lygaid, dal fy llaw i’n dynn
Lleuad lawn, a gad i bopeth fynd
Ble’r ei di heno? Awn i bellter byd?
Mi ddaw dy gyfle, cydia, cysga’n glyd
Cyn i’r bore ddeffro
mae breuddwyd i’w breuddwydio
cyfle i grwydro dros y tir
Dilyn seren wib yn gynnes dan dy gwrlid
cysga di ymhlith y plu
Mae’r sêr yn swil, yn chwarae cuddio
Awyr fawr, a fory’n addo
Anturiaethau difyr rif y gwlith
Mae’r sêr i gyd yn llawn addewid
Gwarchod ni rhag pob un gofid
Colli dy hun mewn byd yn llawn o hud
yn Nôl y Plu
Fory, fory, sgwn i ble yr ei di?
Mae golau’r wawr yn galw arnat ti
Heno, heno, llygaid bach yn cau
Mi ddaw y bore eto i ni’n dau
Cyn i’r bore ddeffro
mae breuddwyd i’w breuddwydio
cyfle i grwydro dros y tir
Dilyn seren wib yn gynnes dan dy gwrlid
cysga di ymhlith y plu
Mae’r sêr yn swil, yn chwarae cuddio
Awyr fawr, a fory’n addo
Anturiaethau difyr rif y gwlith
Mae’r sêr i gyd yn llawn addewid
Gwarchod ni rhag pob un gofid
Colli dy hun mewn byd yn llawn o hud
yn Nôl y Plu
Rho dy law, mi rof fy nghân i ti
Dos â fi yn ôl i Ddôl y Plu.
|
||||
2. |
Rhywle mae 'na afon
02:42
|
|||
Hir yw’r ffordd a moel yw’r erwau
hir yw’r ffordd a phell ’di’r daith
gweld y siwrnai weithiau’n anodd
’di meddwl troi yn ôl sawl gwaith
Fry uwchben, cymylau’n rasio
gwibio heibio ar ei hynt
prysur mae yr oriau’n pasio
amser yn mynd efo’r gwynt
Ond rhywle mae ’na afon
ar ei thaith i’r môr
a rhywle, mae ’na lwybr
a rhywle mae ’na ddôr
Does dim waliau sydd rhaid eu dymchwel
does dim drysau sydd rhaid eu cau
does dim terfyn, na dim ffiniau
gorwelion newydd yn nesáu
Heno mae ’na leuad newydd
yn taflu ei olau dros y tir
ac ysbryd newydd sydd ar gychwyn
mae pen y daith i’w weld yn glir
Ond rhywle mae ’na afon
ar ei thaith i’r môr
a rhywle, mae ’na lwybr
a rhywle mae ’na ddôr.
[Emyr Huws Jones]
|
||||
3. |
Ana
02:42
|
|||
Ana, o’r ddinas arian
Dilyn llwybrau dy daid
cloddio am aur
a gwarchod y gwreiddiau hyn
Ana, o’r ddinas arian
er gwawd a gofid i rai
bwriaist ffrwyth dy lafur
dros fwrdd ein bro
Taena dy liain dros y byrddau
Taena dy angerdd drwy’n calonnau
Teimlwn y croeso sydd yma
sŵn hen emynau a gynn’odd y fflam
Ana, o’r ddinas arian
Dilyn llwybrau dy daid
cloddio am aur
a gwarchod y gwreiddiau hyn
Taena dy liain dros y byrddau
Taena dy angerdd drwy’n calonnau
Teimlwn y croeso sydd yma
sŵn hen emynau a gynn’odd y fflam
Ana, yn ôl o dref Steffan
Yn ôl i Blas y Coed
Yn ôl i gydio’n y geiriau
a chario traddodiad oes.
[Esyllt Nest Roberts de Lewis / Ynyr Gruffudd Roberts]
|
||||
4. |
Llwybrau
04:11
|
|||
Dwi ’di treulio fy amser yn crwydro y wlad
Gwario pob ceiniog i gyd
Teimlo fy mod i yn galw a galw
Ond neb yma i ateb fy nghri
Dwi ’di llusgo ’nhraed drwy y llwch yn Nhreorki
Gadael Tir Halen ers tro
Chwilio am le tecach na Tecka i orffwys
Cyrraedd Cwm Hyfryd a’r fro
Dwi ’di teithio hyd f’oes ar un llwybr hir
sydd yn arwain atat ti
rŵan dwi yma, mi arhosa i, tan bora
a gafael ynot ti
Fues i’n chwilio am rywun dros diroedd maith
Llusgo fy nhraed lawer gwaith
pedwar can milltir nes y ca’ i dy deimlo di’n agos
rŵan dwi’n gwybod ble yr a’ i
Dwi ’di teithio hyd f’oes ar un llwybr hir
sydd yn arwain atat ti
rŵan dwi yma, mi arhosa i, tan bora
a gafael ynot ti.
|
||||
5. |
Malacara
03:32
|
|||
Malacara, Malacara,
el Malacara, que me salvó la vida
Malacara, Malacara,
ti achubodd fy mywyd i
Pedwerydd o Fawrth
Pedwar ar antur
Dilyn yr afon
i chwilio am aur
Un wyth wyth pedwar
O Hafn y Glo
Y sgrechian aflafar
A phedwar ar ffo
Picell yr Indiaid y
n trywanu fy nghoes
tri wedi eu dal
a wna i ddianc i’r nos?
Malacara, Malacara,
el Malacara, que me salvó la vida
Malacara, Malacara,
ti achubodd fy mywyd i
Cylch y gelyn
wedi ei hollti yn ddau
Carlamu fel mellten
i’r ffos sydd o ’mlaen
Gyda minnau’n ei annog
fe neidiodd yr hafn
Er syrthio am eiliad
fe lamodd ymlaen
Malacara, Malacara,
el Malacara, que me salvó la vida
Malacara, Malacara,
ti achubodd fy mywyd i
Un llanc ifanc
a’m meddwl ar ddianc
Wnes i ddim edrych yn ôl
Fe garlamodd drwy’r nos
Malacara, Malacara,
el Malacara, que me salvó la vida
Malacara, Malacara,
ti achubodd fy mywyd i.
|
||||
6. |
Fan hyn (Aquí)
04:12
|
|||
Dwi’m isio colli fy ngwreiddiau, gadael cynefin, fy nghartref a’m gwlad,
dwi ddim isio gadael y tiroedd a’r bobl, neidio i’r cyfrwy heb ystyried i ble’r af,
dwi ddim isio bod fel y gwynt yn mynd trwy fywyd i rywle fel rhywun o’i go,
heb enaid, heb famwlad, heb dir – mae cariad yma’n aros, fan hyn, yn fy mro.
Dwi am aros fan hyn, yn wir, lle dwi’n teimlo bod fy haul yma i fod,
lle mae’r nentydd yn canu, ie i mi, a marw lle ganwyd fi.
Dwi isio bod fel y teros, bob tymor, yn mynd a dod yn eu hôl yn eu tro,
dod yn ôl at y nyth, fy amddiffyn hyd byth, ym mrigau bach caled coirón,
dwi isio bod fel eira mynyddoedd yr Andes mor wyn a glân,
dwi isio aros fan hyn, gan blannu penillion, mor ddwfn – blodeuo mae ’nghân!
Dwi am aros fan hyn, yn wir, lle dwi’n teimlo bod fy haul yma i fod
lle mae’r nentydd yn canu, ie i mi, a marw lle ganwyd fi.
No quiero ser como aquél que se va sin raíces hacia otro lugar,
sin extrañar el paisaje y la gente, ensillar y salir sin volverse a mirar,
no quiero ser como el viento que va por el mundo sin una razón,
no tiene alma, no tiene terruño, no hay paisaje suyo, no tiene un amor...
Yo me quiero quedar aquí, donde siento que es mío el sol,
donde cantan los ríos para mí, y morirme donde nací!
Quiero ser como los teros que van y que vuelven en cada estación,
vuelven al nido buscando el abrigo sencillo del duro coirón,
quiero ser como la nieve pariendo arroyitos en el Situación,
quiero quedarme en mi tierra sembrando mis versos, igual que con ésta canción!
Yo me quiero quedar aquí, donde siento que es mío el sol,
donde cantan los ríos para mí, y morirme donde nací!
[Alejandro Jones / Ynyr Gruffudd Roberts]
|
||||
7. |
Quincho
00:58
|
|||
8. |
Ffenest
04:25
|
|||
Drwy dy ffenest, ti’n gweld dy fyd
yn troi a throi ar ras o hyd
rhyfeddodau i’w gweld bob dydd
Drwy dy ffenest, ti’n gweld y tir
a newid oes i’w weld yn glir
a lliwiau’n newid ar bob mur
Dy adlewyrchiad sydd yng ngwydr y ffenest
a rhwng y ffrâm cei di ateb gonest
ti ’di gweld y cyfan oll
dyddiau caled, dyddiau gwell
Gei di noddfa ger dy ffenest
Rhywle braf i gadw’n gynnes
Lle i weld a hel atgofion
Lle i fod yn fyw a bodlon
Yma aeth degawdau heibio
Yma bydda i yn cofio
Dyma le i godi ’nghalon
bob blwyddyn gron
bob blwyddyn gron
Ar y ffenest mae dafnau glaw
yn cuddio’r dagrau pan ddaw
hiraeth am ffrindiau oes
A disglair yw golau’r haul
sy’n codi gwên, ysgafnu’r baich
gam wrth gam fe awn ar daith
Dy adlewyrchiad sydd yng ngwydr y ffenest
a rhwng y ffrâm cei di ateb gonest
ti ’di gweld y cyfan oll
dyddiau caled, dyddiau gwell
Gei di noddfa ger dy ffenest
Rhywle braf i gadw’n gynnes
Lle i weld a hel atgofion
Lle i fod yn fyw a bodlon
Yma aeth degawdau heibio
Yma bydda i yn cofio
Dyma le i godi ’nghalon
bob blwyddyn gron
bob blwyddyn gron
Ac edrych drwy’r ffenest wnest bob dydd
a gweld can mlynedd o newid byd
braf ’di byw drwy hyn i gyd
braf ’di byw bob dydd o hyd.
|
||||
9. |
||||
Ti’n cofio deffro
Cyn i’r ceiliog ganu ei gân?
Ein calonnau ar dân
A dilyn llwybrau
A’r mieri yn cripio ein croen
A’r gwynt yn ein dwrn
Ti a fi yn erbyn y byd...
Ti a fi â’n traed yn rhydd...
Ti’n cofio cuddio
A rhedeg - mae’n amser ffoi
Cyn i’r llanw’n cloi
Draw o’r pryderon am olau
Melys, moes, mwy...
Digon i’w osgoi
Ti a fi yn erbyn y byd...
Ti a fi â’n traed yn rhydd...
’Run addewid ges di
Yr un geiriau glywes i
Bydd yr ardd yn llawn o rosod
Fe gawn weld yn glir
Does dim bai arnom ni -
Er bydd ein henwau’n bridd
Fe gawn ddeffro fel un
Byw mewn delfryd bob dydd
Yn ein byd newydd ni
Ti a fi yn erbyn y byd...
Ti a fi â’n traed yn rhydd...
Ti’n cofio rhuthro
Llithro a syrthio i’r llawr
Ond fe godwn yn dal
A thra bod angerdd
A ffydd a chariad yn gryf
Fyddwn ni byth ar chwâl.
|
||||
10. |
||||
Naw mlynedd hir o wireddu ein gobeithion
Caled oedd byw ar lu o addewidion
Yng nghanol gwynt a llwch
Mae’n rhaid symud ymlaen... symud ymlaen
Naw mlynedd o anobaith ar dir diffaith
Pryd gawn ni ffrwyth i brofi ein hunaniaeth
Yn dilyn siom ar ôl siom
Mae’n rhaid symud ymlaen... symud ymlaen
Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn
Pentre sydyn ar lan yr afon
Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn
Yng nghysgod yr helyg melyn... symud ymlaen
Naw mlynedd hir a throdd y llwch yn berllan
Trwy lwybr ffos, fe ddyfriwyd dyffryn cyfan
Y drain yn troi yn wenith
Fe ddaeth yr awr... i symud ymlaen...
Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn
Pentre sydyn ar lan yr afon
Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn
Yng nghysgod yr helyg melyn... symud ymlaen.
|
Streaming and Download help
If you like Brigyn, you may also like: