1. |
Addewid gwag
03:19
|
|||
’Di hyn yn ddim byd newydd
Mae’n bennod rhy gyfarwydd
Yr un di’r hen wynebau
Sy’n meddwl fod rheoli yn ffordd o fyw.
Mewn amser ddaw na newid
Er gwag yw pob addewid
Paid ildio i’r elfennau
Daw’r llanw cyn bo hir, i olchi’r drwg i ffwrdd.
|
||||
2. |
Diwrnod marchnad
03:37
|
|||
Mae'n fore llwm, mae'n glawio'n drwm
Ond codi sydd rhaid, ac wynebu'r byd sydd o mlaen
Awyr lwyd, y bws yn hwyr
Fy nghroen ar dân, wedi i mi siafio'n groes i'r graen
Dwi'n teimlo'n hun yn baglu, ac yn methu sefyll fyny
A dwi'n cael fy amgylchynu gan y cannoedd sy'n mynd a dod.
Yr un yw'r bwrlwm eto, fydd o drosodd erbyn heno -
Bydd y stwff ma i gyd, mewn pryd, yn bell o fy nghof.
Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored
Dwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraed
Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwad
Mae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio i dôn fyddarol eu gwaedd.
Mae bywyd yn braf, er nad yw byth yn rhwydd
Mae bywyd i fyw, er gwaetha yr holl lwyth
Y cwmni'n gyfarwydd, ond pob wyneb yn ddiarth
yn estyn am y peth agosaf o unrhyw werth
Mae'n ddiwrnod marchnad ac mae pob man yn agored
Dwi'n cerdded lawr y stryd - prin dwi'n gweld fy nhraed
Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n anodd clwad
Mae'r lleisiau yn bargeinio, a'r ceiniogau yn seinio...
Mae'n ddiwrnod marchnad, ac mae'n amser paned
Dyma'r lle, sy'n gwerthu'r te gorau yn y byd
Mae'n ddiwrnod marchnad ac yn yr holl brysurdeb
Ti'n gweld dy hun yn rhan o'r llun...
yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun... yn rhan o'r llun.
|
||||
3. |
Popeth yn ei le
03:48
|
|||
Yn drwsgl, diderfyn, perffaith mewn ffordd ddi-lun
Dydi’r pin ddim yn ffitio y papur yma, mae’r siawns rhy brin
Does na’m lle i gyfaddawd, mae’r lle ma gyda'i drefn ei hun
Dydi’r ty ddim yn dwt, ond ddoith y gwynt ddim i'm mhoeni'n fore
Dwi’m yn coelio mewn trefn, does dim byd ar goll yn fama
Mae na le i sirioldeb, am fod y lle ma yn lân
Achos mae
Popeth yn ei le
Popeth yn ei le
Popeth yn ei le
Alla i ddim newid, dwi’n sicr o'm ffordd fach wirion
Dydi taclus ddim yn fy ngeirfa, ti'n dal i swnian
Dwi yma yn fy mlerwch, dwi'n fochyn ar fy nhomen fy hun
Ond mae
Popeth yn ei le
Popeth yn ei le
Popeth yn ei le
Yn drwsgl, diderfyn, perffaith mewn ffordd ddi-lun
Dydi’r pin ddim yn ffitio y papur yma, mae’r siawns rhy brin
Does na’m lle i gyfaddawd, dyma fy myd bach i... fy myd bach i.
|
||||
4. |
Y Sgwâr
03:36
|
|||
Amser prin, ond digon hir i ddylanwadu
Bron yn ddim, ond yn rhoi i gyd yr hyn a allai
Talu'n ddrud, roedd y cyfan yn ei waed
Gorau'r byd, cario'i faich yn enw ei wlad
Cam wrth gam, dringo'n uwch fesul brwydr
Matchstick Man, bellach goruwch unrhyw gysur
Yn y sgwâr, mae byd yn galed
Yn y sgwâr, rhwng cnawd a menyg
Yn y sgwâr, mae dyn a'i dynged
Dewraf dyn, dyrnau dur.
Canfas wag, atgofion oes y mab o Ferthyr
'Sneb yn saff, gwendid bach a gollodd frwydr
Yn y gwres, dyn a'i ddewis, dyn a'i falchder
Run di'r wers, byw yw'r hanes dros holl amser
Yn y sgwâr, mae byd yn galed
Yn y sgwâr, rhwng cnawd a menyg
Yn y sgwâr, mae dyn a'i dynged
Dewraf dyn, dyrnau dur.
Dewraf dyn, dyrnau dur.
|
||||
5. |
Imãgõ
02:25
|
|||
6. |
Serth
05:00
|
|||
Mae'r allt yn serth, yr allt sy'n fy arwain i yn ôl
Yr uchaf yr a' i, y pella 'na i syrthio yn ôl
Y pella 'na i syrthio, y tryma 'na i daro'r llawr
Y tryma fydd orau, i greu y llanast mawr
Bydd yno... (a wyt ti yna i mi?)
Pan fydd y cyfan ar chwâl
Yn ulw yn y tân
'Mond cyffur fel cysur fysa'n gweithio nawr.
Mae'r dwr yn ddwfn, y dwr rwyf yn boddi ynddo
Dwi'n boddi, ond 'mond dan ddylanwad y moddion
Bydd yno... (a wyt ti yna i mi?)
Pan fydd y cyfan ar chwâl
Yn ulw yn y tân
'Mond cyffur fel cysur fysa'n gweithio nawr.
Mae'r aer yn boeth
Dwi'n llewygu'n y gwres
Dwi'n syrthio i lawr
Creu y llanast mawr.
|
||||
7. |
Darn o'r un brethyn
04:14
|
|||
O'r funud gyntaf, nath ein llygadau ni gwrdd
Un eiliad sydyn, ac yna wedyn, es ti i ffwrdd
Fel saeth drwy'r galon
O'r funud honno gwn
Mae'r saeth 'di treiddio'n ddwfn
Mae na rywbeth yn deutha fi, fysa ni'n dda efo'n gilydd
Mae na rywbeth yn deutha fi, fysa ni'n dda efo'n gilydd
Chdi a fi... chdi a fi... chdi a fi.
O hyd yn gytun, fel darn o'r un brethyn - dyna ni.
A'r diwrnodau gorau, yw pan dwi'n treulio fy oriau, yn dy gwmni di.
Fel saeth drwy'r galon
O'r funud honno gwn
Mae'r saeth 'di treiddio'n ddwfn
Mae na rywbeth yn deutha fi, fysa ni'n dda efo'n gilydd
Mae na rywbeth yn deutha fi, fysa ni'n dda efo'n gilydd
Chdi a fi... chdi a fi... chdi a fi.
|
||||
8. |
Vortex
00:32
|
|||
9. |
Byd brau
03:22
|
|||
Dwi'n trio gwneud fy ngorau
A dyma'r gorau dwi'n gallu'i wneud
Dwi'n trio dal y pwysa
Ond y pwysa sy'n dal i ddeud
Fod hi'n amser i ymlacio
Ond 'dyw ymlacio ddim yn hawdd
Pan mae'r byd yn gofyn gymaint
Gofyn gymaint fesul awr
Dwi'n trio hel fy arian
Ond mae'r arian dw i'n hel
Yn cael i gymryd oddi wrtha i
I ariannu y rhyfel
Ond pa ateb ydi rhyfel
Mewn byd sydd mor frau?
Er mor agos yw y gorwel
Mae'r llinell o hyd yn pellhau...
|
||||
10. |
xetroV
00:36
|
|||
11. |
Hwyl fawr, ffarwel
04:04
|
|||
Blas, roedd hi wedi cael blas ar rywbeth gwell
Gweld, dwi’n gweld hi yn symud i rywle pell
’Run diferyn ar ôl yn y botel
Lle ’raeth y wefr o fod mor uchel?
Mor anodd yw gollwng gafael
Ond dianc wna i, a hynny’n dawel
Hwyl fawr, ffarwel.
Byth di gorfod cymryd cam mor fawr
Ond roedd ewyllys fy nrhaed mor ddu
A'r esgid fach yn gwasgu
Mewn lle nas gwyddost ti
Mewn lle nas gwyddost ti
Hwyl fawr, ffarwel
Hwyl fawr, ffarwel.
|
||||
12. |
Bysedd drwy dy wallt
03:53
|
|||
Gwanwyn ddaeth -
Ac er gwaetha'r ffaith
Nad oes unrhyw le i orffwys heno -
Rwy'n dal i obeithio...
Haf sy'n dod -
Aros yn y cof.
Ac er gwaetha'r ffaith fy mod i yma'n ildio -
Rwy'n dal i obeithio...
Byddaf yno yn dy gwmni yn rhedeg fy mysedd drwy dy wallt
Yno yn dy gwmni yn rhedeg bysedd drwy dy wallt
Hydref gwlyb -
A gwyddwn o'r dydd
Na ddaw terfyn i'r dilyw nes i'r tymor droi,
Nes i'r allwedd gloi.
Gaeaf gwaeth -
Yn llenwi'r chwaeth
am dy gwmni heno a phob dydd a nos sy'n dilyn
bob tymor, bob blwyddyn
Byddaf yno yn dy gwmni yn rhedeg fy mysedd drwy dy wallt
Yno yn dy gwmni yn rhedeg bysedd drwy dy wallt.
|
Streaming and Download help
If you like Brigyn, you may also like: