1. |
Fyswn i... fysa ti?
03:45
|
|||
Fyswn i, os fysa ti'n rhoi dy fys yn y tân
Fyswn i, os fysa ti'n neidio i'r pen dwfn
Fyswn i, os fysa ti'n hau ac yn medi'r grawn
Fyswn i, os fysa ti'n udo ar y lleuad llawn
Ges ti dy boeni gan amheuon, dy lethu gan demtasiwn?
Nes ti fentro brathu'r afal oedd yn wenwyn trwyddo'i gyd
Ddes ti yma i nghynhyrfu, ac eistedd yno'n gwenu
Ddes ti yma mond i darfu arna i
Ond does na unlle i droi
Unlle i ddianc, unlle i ffoi
Does na unlle i droi
Unlle i guddio, unlle i droi
Does na unlle i ffoi
Fyswn i, os fysa ti'n rhoi dy fys yn y tân
Fyswn i, os fysa ti'n neidio i'r pen dwfn
Nes ti achub ar dy gyfle, a'nal i dan gyfaredd
Ac mi glywson ni y bleiddiaid yn udo ar y lloer
Ddes ti yma i nghynhyrfu, ac eistedd yno'n gwenu
Nes i geisio cadw mhwyll, ond ro'n i dan dy swyn
Fyswn i ... fysa ti?
|
||||
2. |
Subbuteo
03:26
|
|||
Ar flaen ei fys y mae, yr awydd mwya am y cyffyrddiad perffaith
Ar flaen ei fys y mae, yr unig ymgais yr un uchelgais
Ar flaen dy fys y mae, gofal, llwyddiant, y wefr, a'i haeddiant
Ar flaen dy fys y mae, breuddwyd arall ar fin troi'n fethiant
A nes di fethu'r haul a methu'r haf
Nes di fethu hyn a methu'r llall
A ti'n methu'r pwynt ac yn methu dallt
Sut nes di fethu dy gyfla, dwi'n methu dy ddallt
Ar flaen dy fys yr oedd, y cyfle gorau i newid dy fyd yn llwyr
Ar flaen dy fys yr oedd, dy feddwl mwya ar chwara gem ddibwys
A nes di fethu'r haul a methu'r haf
Nes di fethu hyn a methu'r llall
A ti'n methu'r pwynt ac yn methu dallt
Sut nes di fethu dy gyfla, dwi'n methu dy ddallt
A ti'n methu'r cwmni
Ti'n methu cysgu
Ti'n methu dal arni
A methu cyfarthrebu
A dwi'n methu dy ddallt di, methu dy ddallt di ...
Methu, methu, methu ...
A nes di fethu'r haul a methu'r haf
Nes di fethu hyn a methu'r llall
A ti'n methu'r pwynt ac yn methu dallt
Sut nes di fethu dy gyfla, dwi'n methu dallt
A ti'n methu'r cwmni
Ti'n methu cysgu
Ti'n methu dal arni
A methu cyfarthrebu
A dwi'n methu dy ddallt di, methu dy ddallt,
Sut nes di fethu dy gyfla, dwi'n methu dy ddallt!
|
||||
3. |
Allwedd
02:46
|
|||
Mae na allwedd i agor y drws
Mae na allwedd i agor bocsus
Mae na allweddi mawr ac allweddi bach
Mae na allwedd sy'n cadw dy arian yn saff
Mae na allwedd i danio'r car
Mae na allwedd i danio'r cariad
Mae na allwedd o hyd ar goll
Ar yr eiliad pan ti'n hwyr ac ar fin colli'r plot
Ond ble mae'r allwedd, ble mae'r allwedd
i gloi fy hun yn dy freichia di?
Mae na allwedd i gloi fy nrws
Mae na allwedd i gloi y bocsus
Mae na allwedd i 'nghloi i yn y carchar
Ac allwedd i'm rhyddhau pan ddaw fy amser
A dwi'n chwilio am yr allwedd o hyd
Allwedd i gadw trysor drud
Mae na allweddi i'w cael - pob siap a phob llun
A dal i chwilio am yr allwedd 'dwi i gloi fy hun
Ble mae'r allwedd, ble mae'r allwedd
i gloi fy hun yn dy freichia di?
|
||||
4. |
Kings, Queens, Jacks
05:00
|
|||
Rho gynnig ar fod yn lloerig am un noson yn unig
Cad dy law dros y rhaw a dy galon yn ddwfn yn dy ddwrn
Rho dy arfau i lawr a rho siawns i ffawd gymryd ei le
Mond drwy fentro y cei fyw i'r eithaf, datgelu dy ofnau i gyd
Un i hollti, llall i ddewis
ac un i golli, un i ennill
Kings, Queens, Jacks allai mond dyfalu
Kings, Queens, Jacks yr unig beth sy'n talu
Cardyn arall o'r pac, amau'n newid am eiliad o feddwl clir
Yn y gem mae y gwir, yn dy law mae dy ffydd, dy dynged, dy fyd
Un i hollti, llall i ddewis
ac un i golli, un i ennill
Kings, Queens, Jacks allai mond dyfalu
Kings, Queens, Jacks yr unig beth sy'n talu.
|
||||
5. |
Isel
04:00
|
|||
Fûm i rioed mor isel, isel
Yn cuddio o'r haul nes iddi nosi ar lethrau'r llechan las
Fûm i rioed mor dawel, dawel
Yn disgwyl am y teimlad i lenwi'r tyllau llwm a holltwyd yn ddwfn
Ac roedd na rywbeth bach, o hyd ar goll
Rywbeth bach, o hyd ar goll
Pan ti'n dyner, pan ti'n dyner
Ti yn dyner fel gwlith
Ac yn dyner fel yr awel
Yn dyner a thawel
Fûm i rioed yn chwilio, chwilio
Ond balch o ni i'th ffindio yn llechu dan y ddeilen werdd
Fûm i rioed yn morio, morio
Ar goll heb neb na gwynt i gydio yn fy mhadell ffrio
Ac roedd na rywbeth bach o hyd ar goll
Rywbeth bach, o hyd ar goll
Pan ti'n dyner, pan ti'n dyner
Ti yn dyner fel gwlith
Ac yn dyner fel yr awel
Yn dyner a thawel.
|
||||
6. |
Gwreichion
00:28
|
|||
7. |
Wedi'r cyfan
03:31
|
|||
Yng ngolau tanllyd traffordd flin
Dros swn y modur fe adroddaist ti
Nid un gosgeiddig fydda d' fwriad byth
Ond falle wnai i'r tro, tro hyn, drwy rhyfedd wyrth
Yn fwy a mwy, hyd filltir sydyn
Law yn llaw fe dyfa'n wenwyn
Wedi'r cyfan nes ti rioed ofyn ...
Ble'r wyt ti?
I ble'r ei di gan milltir yr awr?
Yn is ac is i'r llawr, un ras wyllt i'r clawdd
Yn fwy a mwy, hyd filltir sydyn
Law yn llaw fe dyfa'n wenwyn
Wedi'r cyfan nes ti rioed ofyn ...
Ble'r wyt ti?
|
||||
8. |
Tu ôl i'r wên
04:13
|
|||
Tu ôl i'r wên, ti'n dawel yno'n cuddio
A minnau'n gobeithio dy fod ti'n edrych arna i
Tu ôl i'r wên, mae'r teimlad ynai'n cydio
ond dydw i 'mond yn twyllo'n hun, wrth ddiflanu i fy nghysgod du
Tu ôl i'r wên, yn ddisglair yn y golau
a finnau'n trio 'ngorau i gael eiliad o'th sylw prin
Tu ôl i'r wên, dychmygu bod mewn cariad
Ac mi af innau i ystyried os wyt ti'n ffitio'r esgid hon?
A wnei di wisgo yr esgid hon?
Tu ôl i'r wên, mae'r teimlad o hyd yn cydio
Fel gweiddi lawr hen simne fawr, sy'n mygu yn y glaw
Tu ôl i'r wên, mi af innau'n ôl i guddio
A byw o hyd i obeithio y daw hi'n ôl i'm myd ... rhyw ddydd.
|
||||
9. |
Pioden
04:06
|
|||
Gwyn a du, a ddylwn i, droi yn fy unfan i'th gyfarch di?
Dy gân yn fy swyno, dy ddawns ysgafn droed
Dy wên yn un ddoniol, tra'n chwarae yn y coed
Mi goda i fy llaw cyn symud mlaen ar fy nhaith
Mi gollais i'r cyfle i gloi ar fy ôl, lawer gwaith
Yn yr ardd, aderyn hardd
Dy wisg yn fy hudo, a'm eiddo yn temtio
Creadur craff, 's neb yn saff
Tra'n edrych mor ffyddlon, ti'n bwydo'r amheuon
Ac ysu am drysorau cain
Du a gwyn, ti'n methu dim, manteisio ar unrhyw gyfle prin
Fy ffenest ar agor, edrychaist o'r gwair
Cymeraist dy gyfle i gipio'r aur
Mi godaist fy ngobeithion a'u tynnu i lawr mewn dim
Mi gollais i'r cyfan i leidr a oedd mor chwim
Yn yr ardd, aderyn hardd
Dy wisg yn fy hudo, a'm eiddo yn temtio
Creadur craff, 's neb yn saff
Siom yw darganfod fod gen ti arferion cas
Pioden wen, pioden ddu, meddal yw dy feddwl di
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio'n twyllo ni
Pioden wen, pioden ddu, cyfrwys yw dy gynllun di
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio'n twyllo ni
Pioden wen, pioden ddu, dial ar ein gwendid ni
Pioden wen, pioden ddu, paid â thrio'n twyllo ni.
|
||||
10. |
Seren
05:07
|
|||
Ma siwr ti'm isio hyn,
rhyw gwyno ar gân o lais hogyn,
ti'm am glywed, ond wedyn,
mae nagrau i'n llenwi llyn.
Oedd hi'n anodd iawn heno,
yn y nos efo neb i wrando,
a dod draw oedd rhaid am dro,
dod atat i'r stryd eto.
Dwi'n cofio'r adeg pan oedd na wegian
yn dy goesau yn eiliad y gusan,
cofio chdi'n fy neud i'n wan, a chofio'r
byd ar agor, a'r byw darogan...
A heno dwi ym mhen y daith
a dwisio gwbod oes gobaith
y doi di'n ôl, dim ond un waith.
Edrych, os wyt ti adra,
yn wyneb y ffenest a gwena,
ar wiriondeb jysd gwranda,
dwi'n ysu deud un nos da.
|
||||
11. |
||||
Paid â mynd i’r nos heb ofyn pam;
ysa, yn dy henaint, am droi’n gas
wrth y drefn a fyn ddifodi’r fflam.
Doethion yn eu noethni’n mentro’r cam
i lawr i bwll heb olau ar y ffas,
ân’ nhw ddim yn llwch heb ofyn pam.
Dynion da’n eu dagrau’n cofio cam
alw dawns y don mewn cilfach las,
ân’ nhw ddim i’r dwfn heb ofyn pam.
Dynion gwyllt a gipiai, o roi llam,
hynt yr haul ar gân, cyn colli blas,
ân’ nhw ddim yn bridd heb ofyn pam.
Gwyr y beddau’n llon er gweld, yn gam,
wreichion gwib ffwrneisi’r sêr ar ras,
ân’ nhw ddim i’r gwag heb ofyn pam.
Tithau ‘nhad yng ngwagle’r Pelican,
rhega fi a’th ddagrau llym, di-ras.
Paid â mynd i’r nos heb ofyn pam
wrth y drefn a fyn ddifodi’r fflam.
|
Streaming and Download help
If you like Brigyn, you may also like: