1. |
Nos Ddu (+ DnA)
02:38
|
|||
Nos ddu, hynod a hyfryd wyt ti
Nos ddu, hynod a hyfryd wyt ti
Nos ddu, disgwyl am doriad y wawr
Nos ddu, aros amdanat bob awr.
Bob dydd, pobl yn mynd ac yn dod
Bob dydd, gweithio yn galed am glod
Bob dydd, chwilio am arian i fyw
Bob dydd, ceisio darganfod fy Nuw.
Nos ddu, tywyll yw’r byd fel y bedd
Nos da, cysgu mae’r sêr yn y nef
Nos ddu, unig yw hanes pob dyn
Nos da, dyfod mae bywyd yn wir.
Nos ddu, hynod a hyfryd wyt ti
Nos ddu, hynod a hyfryd wyt ti
Nos ddu, disgwyl am doriad y wawr
Nos ddu, aros amdanat bob awr
bob awr ... (Nos ddu, nos, nos ddu).
|
||||
2. |
Gwawr wedi Hirnos
03:20
|
|||
Gwawr wedi hirnos, cân wedi loes,
nerth wedi llesgedd, coron ’r ôl croes;
chwerw dry’n felys, nos fydd yn ddydd,
cartref ’r ôl crwydro, wylo ni bydd.
Medi’r cynhaeaf, haul wedi glaw,
treiddio’r dirgelwch, hedd wedi braw,
wedi gofidiau, hir lawenhau,
gorffwys ’r ôl lludded, hedd i barhau.
Heuir mewn dagrau, medir yn llon,
cariad sy’n llywio stormydd y don;
byr ysgafn gystudd, derfydd yn llwyr
yn y gogoniant ddaw gyda’r hwyr.
Farnwr y byw a’r meirw ynghyd,
d’eiddo yw nerthoedd angau a’r byd;
clod a gogoniant fyddo i ti,
Ffrind a Gwaredwr oesoedd di-ri’.
|
||||
3. |
||||
Rhyfeddod ar foreddydd,
fe gaed Gwaredydd gwiw;
Ym Methlem ymddangosodd,
a Christ yr Arglwydd yw;
Mynegwyd i’r bugeiliaid
mor rhyfedd oedd y drych:
Cael Tad o Dragwyddoldeb
mewn preseb lle pawr ych.
Gadawodd sedd ei Dad
a gwynfyd nefol wlad.
A dod mor isel, lle pawr anifel
o ryfedd gariad rhad.
Y doethion wiwgu iaith
i geisio’r Iesu ddaeth.
Caent lewyrch seren gain yn y dwyren
i’w harwen ar eu taith.
Mynegwyd gan yr engyl
am eni’r dwyfol Un,
Y Duwdod yn y Dyndod
yn gwisgo natur dyn.
Disgynnodd o’r uchelder
i’r byd ar lafar lef,
“Tangnefedd ar y ddaear!
Gogoniant i Dduw Nef!”
Daeth yma yn y cnawd,
ein Brenin gwiw a’n Brawd,
Heb grud na pharlwr fe ddaeth ein Crëwr
o’r Wyryf yn dylawd.
Addewid Eden gaeth,
i’r byd mewn pryd a ddaeth
I ddifa hudol holl waith y Diafol,
oedd diben mawr ei daith.
|
||||
4. |
Teg Wawriodd
02:58
|
|||
Teg wawriodd bore-ddydd na welwyd ei ail
Er cread y byd na thywyniad yr haul:
Bore gwaith a gofir yn gynnes ar gân,
Pan fo haul yn duo a daear ar dân.
Y testun llawenaf i’n moliant y sydd
Fe aned in Geidwad, do, gwawriodd y dydd,
Yn Geidwad i deimlo dros frodyr dan fraich,
Yn Grist i’n gwaredu, Un cadarn ei fraich
Edrychwn o’n hamgylch, pwy greodd y rhain:
Haul, lloer, sêr a daear sy’n gwenu mor gain?
Chwyrnellant drwy’r gwagle
ynghrog wrth ei Air,
Ac Yntau yn pwyso ar fynwes fwyn Mair.
Y Bachgen a anwyd yn rhychwant o hyd -
A Mab sydd â’i rychwant yn mesur y byd!
Yn faban bach egwan ar fronnau ei fam,
Ac eto yn cynnal y bydoedd heb nam!
Mewn gŵyl fawr dragwyddol sydd eto i ddod,
Moliannwn ein Ceidwad, datganwn ei glod,
Cydseiniwn “Hosanna” nes atsain y nen,
Rhown iddo ogoniant a moliant, Amen.
|
||||
5. |
||||
Ar gyfer heddiw’r bore
’n faban bach, faban bach,
Y ganwyd gwreiddyn Jesse
’n faban bach;
Y Cadarn ddaeth o Bosra,
Y Deddfwr gynt ar Seina,
Yr Iawn gaed ar Galfaria
’n faban bach, faban bach,
Yn sugno bron Maria
’n faban bach.
Caed bywiol ddwfr Eseciel
ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Feseia Daniel ar lin Mair;
Caed bachgen doeth Eseia,
’R addewid roed i Adda,
Yr Alffa a’r Omega
ar lin Mair, ar lin Mair;
Mewn côr ym Methle’m Jiwda, ar lin Mair.
Diosgodd Crist o’i goron,
o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er mwyn coroni Seion,
o’i wirfodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog
I ddioddef dirmyg llidiog,
o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er codi pen yr euog,
o’i wirfodd.
Am hyn, bechadur, brysia,
fel yr wyt, fel yr wyt,
I ’mofyn am dy Noddfa, fel yr wyt
I ti’r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon,
fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt.
|
||||
6. |
Oer
03:28
|
|||
Mae’n oer heno, a’r lloer yn gwmni i mi.
Mae’n hwyr eto, ac adre’n teimlo’n bell.
O’r dre heno, daw sŵn i lonni ’nghalon
a phêr yw’r nodau, yn falm i deimlo’n well.
Ac wyt ti’n clywed sŵn y canu ar yr awel?
Ac wyt ti’n gweld lliwiau’r Dolig del?
Ga i dy sylw heno fel yn y gorffennol?
A cherddwn gyda’n gilydd adre’n ôl, adre’n ôl...
Mae’n oer heno,
daw dy law i ’nghadw’n gynnes
A’r sêr yn mynnu nad awn ni byth ar goll.
Ac wyt ti’n clywed sŵn carolau ar yr awel?
Ac wyt ti’n gweld lliwiau’r Dolig del?
Ga i dy sylw heno fel yn y gorffennol?
A gorwedd gyda’n gilydd adre’n ôl...
“...Ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn...”
ac fel gyda’r crud ym Methlehem
down ynghyd fel y sêr uwchben.
Mae’n oer heno, a’r lloer yn gwmni difyr i ni,
a’r lloer yn gwenu’n dirion arnom ni.
|
||||
7. |
Swatia’n Dawel
03:14
|
|||
Swatia’n dawel bach, fy nghyw
Swatia’n dawel bach, fy nghyw,
anghofia’r byd o’th gwmpas
y gwynt sy’n chwipio blodau’r Garn,
yn oeri tai y ddinas.
A thithau’n swatio’n dawel bach,
A thithau’n swatio’n dawel bach,
mae sôn am gau y ffiniau,
am gadw’r bobl ar wahân
a’r werin ar ei gliniau.
A thithau’n swatio’n dawel bach
A thithau’n swatio’n dawel bach,
gwaiff dyn ei frawd yn elyn.
Pan dyfi’n ddyn, fy machgen tlws a
brofi dithau’r gwenwyn?
Mae’r nos yn llawn cysgodion blin
a minnau’n hawdd fy nychryn
ond pan ddaw’th wên i liwio’r wawr
daw haul i ddrws fy mwthyn.
A thithau’n swatio’n dawel bach
A thithau’n swatio’n dawel bach,
mae’n daear ni yn diodda’,
pan dyfi’n hŷn a fydd hi’n waeth,
yn gaeth i’w gwely anga’?
A thithau’n swatio’n dawel bach
A thithau’n swatio’n dawel bach,
rwy’n ymbil, rwy’n gobeithio
y byddi di a’th ffrindiau’n gryf,
yn well na ni, yn llwyddo
Mae’r nos yn llawn cysgodion blin
a minnau’n hawdd fy nychryn
ond pan ddaw’th wên i liwio’r wawr
daw haul i ddrws fy mwthyn...
i ddod â chariad nôl i’r byd,
i ddod â chariad nôl i’r byd,
i weld be sydd yn cyfri,
ond swatia heno’n dawel bach,
fy machgen tlws, fy mabi.
|
||||
8. |
Y Gwir Bererin
02:12
|
|||
A fynno ddewrder gwir,
O deued yma;
mae un a ddeil ei dir
ar law a hindda:
Ni all temtasiwn gref
ei ddigalonni ef
i ado llwybrau’r nef -
y gwir bererin.
Ei galon ni bydd drom
wrth air gwŷr ofnus,
ond caiff ei boenwyr siom,
cryfha’i ewyllys:
ni all y rhiwiau serth
na rhwystrau ddwyn ei nerth,
fe ddyry brawf o’i werth,
fel gwir bererin.
’D oes allu yn un man
i ladd ei ysbryd,
fe ŵyr y daw i’w ran
dragwyddol fywyd:
diysgog yw ei ffydd,
a rhag pob ofn yn rhydd
ymlaen ’r â nos a dydd
fel gwir bererin.
|
||||
9. |
Haleliwia
03:53
|
|||
Mewn dwrn o ddur mae’r seren wen
Mae cysgod gwn tros Bethlehem
Dim angel gwyn yn canu Haleliwia.
Codi muriau, cau y pyrth
Troi eu cefn ar werth y wyrth
Mor ddu yw’r nos ar strydoedd Palesteina.
Haleliwia, Haleliwia,
Haleliwia, Haleliwia.
Mae weiran bigog gylch y crud
A chraith lle bu creawdwr byd
Mae gobaith yno’n wylo ar ei glinia’
A ninnau’n euog bob yr un
Yn dal ei gôt i wylio’r dyn
Yn chwalu pob un hoel o Haleliwia.
Haleliwia, Haleliwia,
Haleliwia, Haleliwia.
Mae’r nos yn ddu mae’r nos yn hir
Ond mae ’na rai sy’n gweld y gwir
Yn gwybod fod y neges mwy na geiria’
Mai o’r tywyllwch ddaw y wawr
A miwsig ddaeth â’r muriau lawr
Daw awr i ninnau ganu Haleliwia.
Haleliwia, Haleliwia,
Haleliwia, Haleliwia.
Haleliwia, Haleliwia,
Haleliwia, Haleliwia.
|
||||
10. |
||||
Pwy ydyw dy gariad, lanc ifanc o Lŷn
Sy’n rhodio’r diwedydd
fel hyn wrtho’i hun?
Merch ifanc yw ’nghariad o ardal y Sarn
A chlyd yw ei bwthyn
yng nghysgod y Garn.
Pa bryd yw dy gariad, lanc ifanc o Lŷn
Sy’n rhodio’r diwedydd
fel hyn wrtho’i hun?
Pryd tywyll yw ’nghariad, pryd tywyll yw hi
A’i chnawd sydd yn wynnach
nag ewyn blaen lli.
Sut wisg sydd i’th gariad, lanc ifanc o Lŷn
Sy’n rhodio’r diwedydd
fel hyn wrtho’i hun?
Gwisg gannaid sidanwe, sydd laes at ei thraed
A rhos rhwng ei dwyfron
mor wridog â’r gwaed.
A ddigiodd dy gariad, lanc ifanc o Lŷn
Sy’n rhodio’r diwedydd
fel hyn wrtho’i hun?
Ni ddigiodd fy nghariad, ni ddigiodd erioed
Er pan gywirasom
ni gyntaf yr oed.
Pam ynteu daw’r dagrau, lanc ifanc o Lŷn
I’th lygaid wrth rodio’r
diwedydd dy hun?
Yr Angau a wywodd y rhos ar ei gwedd
A gwyn ydyw gynau bythynwyr y bedd
A gwyn ydyw gynau bythynwyr y bedd.
|
||||
11. |
Yr Arth a’r Lloer
04:38
|
|||
Pan â’r haul dros ben y bryn
Ca’ dy lygaid bach yn dynn.
Cei swatio’n esmwyth yn dy grud,
A boed dy fyd yn wyn.
Si hei lwli...
Pan ddaw’r nos dros ben y bryn
Bydd y lloer yn codi’n syn
A’i lygaid llawn yn gwylio’r Arth
Yn hofran parth â’r glyn.
Si hei lwli...
Pan ddaw’r fawr i lawr y glyn,
Cheith hi’m mentro mewn fan hyn
I d’wyllu lloer dy wyneb tlws.
Mae bollt y drws yn dynn.
Si hei lwli...
Pan ddaw’r wawr â’i fory gwyn
Agor di dy lygaid syn.
Diflanna’r Arth a’r lloer o’r nen.
Bydd haul uwchben y bryn.
Si hei lwli...
|
||||
12. |
||||
Mi ganaf fy nghân i ti
yn y gaeaf milain mawr
dan yr awyr ddidostur ddu
a’r eira’n siglo i lawr.
Mi ganaf fy nghân i ti
i dy gadw’n gynnes ac yn glyd
ac yn yr oriau mân, bydd nodau’r gân,
yn ein cynnal ni o hyd,
yn ein cynnal ni o hyd.
Mi ganaf fy nghân i ti
dan ganghennau’r gwanwyn gwyrdd
i gyfeiliant y brain a’r ŵyn
a blodau min y ffyrdd.
Mi ganaf fy nghân i ti
bydd yn hafan ac yn gysgod rhag y gwres
ac ar nosweithiau braf a hithau’n fôr o haf
daw y gân â ni yn nes,
daw y gân â ni yn nes.
Mi ganaf fy nghân i ti
yn yr hydref dan y dail
lle mae’r mwg o’r tomenni aur
yn gwaedu’r gwrid o’r haul.
Mi ganaf fy nghân i ti
cân o obaith yn ein dyddiau rhyfedd ni
ac yn y dŵr a’r tân fe wnaed y gân
rwy’n ei chanu hi i ti.
Yn y dŵr a’r tân fe wnaed y gân
rwy’n ei chanu hi i ti,
yn ei chanu hi i ti.
|
Streaming and Download help
If you like Brigyn, you may also like: