1. |
Gadael Bordeaux
03:20
|
|||
Rhwng Rhone a’r Saône dwi’n ista
a’r sêr uwch Notre Dame;
mae’n oriau mân y bora
ond eto – ’wn i’m pam –
yn Lyon rhwng afonydd clên
mae’r dagrau’n llifo, ac mae gwên.
Hwyl fawr am y tro, dwi'n gadael Bordeaux
'Nai byth anghofio, ni'n gadael Bordeaux
Garonne a’r Seine oedd hefyd
yn pefrio; hithau’r daith
yn llawn o boenau ennyd,
o chwerthin filiwn gwaith;
Toulouse a Lens, Lille a Bordeaux,
a draw i Paris, mynd am dro.
Hwyl fawr am y tro, dwi'n gadael Bordeaux
'Nai byth anghofio, ni'n gadael Bordeaux
Ond rhaid mynd adra’n ôl i’r ha:
mae Cymru’n galw. Au revoir.
Toulouse a Lens, Lille a Bordeaux,
a draw i Paris, mynd am dro.
Fy hen gyfeillion honco
a fi â ’nghampyr-fán;
gwneud ffrindiau newydd gwallgo
o Ewrop bedwar ban.
Hwyl fawr am y tro, dwi'n gadael Bordeaux
'Nai byth anghofio, ni'n gadael Bordeaux
Ond rhaid mynd adra’n ôl i’r ha:
mae Cymru’n galw. Au revoir.
Mae Cymru’n galw. Au revoir.
|
Streaming and Download help
If you like Brigyn, you may also like: