1. |
Ara deg
02:34
|
|||
Gan bwyll, gan bwyll a cher ymlaen
Ymlaen, heb ddim ond ffydd
Hawdd clwyfo claf, haws dweud ffarwel
Ond awn ni ddim yn dawel
Carlamwn ninnau tua’r mynydd
I mewn i’r pedwar gwynt
Ac er mor hir yw pob ymaros
Daw eto haul ar fryn, fan hyn
Gan bwyll, gan bwyll a chwyd dy ben
Paid troi dy gefn ar ddim
Dim brys, dim chwys, dim poen heb gur
Pob bywyd sy’n llawn dolur
Carlamwn ninnau tua’r mynydd
I mewn i’r pedwar gwynt
Ac er mor hir yw pob ymaros
Daw eto haul ar fryn, fan hyn.
|
||||
2. |
Fflam
03:46
|
|||
Pan fydd y nos ar ddechrau, a’r dydd yn dod i ben
Daw sŵn gitâr i gadw ’myd yn braf
Mi ganwn hen alawon, ryw hiraeth yn fy nghalon
Ar noson hwyr â choelcerth yn yr haf
Mae’r tân yn clecian ac mae’r mŵg yn llenwi’r aer
Yng nghwmni’r lleuad llawn a’r sêr
Mi nawn ni ddengid i ryw freuddwyd hudol fwyn
Yn gaeth i’r felodi a’i swyn
Tra bydd y fflam yn dal i gynnau ar y tân
Mi fydda i’n dal i ganu ’nghân
Tra bydd y fflam yn dal i’n cnesu gyda’i wres
Mi deimla i chdi’n dod yn nes... tyrd yn nes
Gorweddwn yn y glaswellt, rhoi blodau yn ein gwallt
A chlymu’n hun mewn rhamant drwy y mŵg
A churiad calon fydd yn gyrru’r gân o hyd
A chanu wnawn drwy’r dyddiau da a drwg
Mae’r tân yn clecian ac mae’r mŵg yn llenwi’r aer
Yng nghwmni’r lleuad llawn a’r sêr
Mi nawn ni ddengid i ryw freuddwyd hudol fwyn
Yn gaeth i’r felodi a’i swyn
Tra bydd y fflam yn dal i gynnau ar y tân
Mi fydda i’n dal i ganu ’nghân
Tra bydd y fflam yn dal i’n cnesu gyda’i wres
Mi deimla i chdi’n dod yn nes... tyrd yn nes
Ac os bydd y fflam yn diffodd pan ddaw’r wawr
Ni fydd llwch na lludw yn ein dal ni i lawr... i lawr.
|
||||
3. |
Deffro
03:45
|
|||
Ti’n cofio deffro
Cyn i’r ceiliog ganu ei gân?
Ein calonnau ar dân
A dilyn llwybrau
A’r mieri yn cripio ein croen
A’r gwynt yn ein dwrn
Ti a fi yn erbyn y byd...
Ti a fi â’n traed yn rhydd...
Ti’n cofio cuddio
A rhedeg - mae’n amser ffoi
Cyn i’r llanw’n cloi
Draw o’r pryderon am olau
Melys, moes, mwy...
Digon i’w osgoi
Ti a fi yn erbyn y byd...
Ti a fi â’n traed yn rhydd...
’Run addewid ges di
Yr un geiriau glywes i
Bydd yr ardd yn llawn o rosod
Fe gawn weld yn glir
Does dim bai arnom ni -
Er bydd ein henwau’n bridd
Fe gawn ddeffro fel un
Byw mewn delfryd bob dydd
Yn ein byd newydd ni
Ti a fi yn erbyn y byd...
Ti a fi â’n traed yn rhydd...
Ti’n cofio rhuthro
Llithro a syrthio i’r llawr
Ond fe godwn yn dal
A thra bod angerdd
A ffydd a chariad yn gryf
Fyddwn ni byth ar chwâl.
|
||||
4. |
Gwyn dy fyd
04:18
|
|||
Ti yw’r seren uwch fy mhen
Sy’n ddisglair yn y nos
Petawn i’n cael dy ddal yn dynn
Fel angor yn y môr, yn y môr... fel angor yn y môr
Ti yw fy nghysgod rhag y glaw
Pan ddaw’r dilyw mawr
Ffyddlon fel y machlud
Ac yna pan ddaw’r wawr
Pan ddaw’r wawr...
Yna ar doriad gwawr
Ti yw yr un
Ti yw fy nhrysor
Dy gwmni sy’n gysur i mi
Ti yw fy ffrind
Ble wyt ti am fynd?
Mae’r drws yn agored i chdi…
Gwyn, gwyn dy fyd
Dy draed yn rhydd
Pam cuddio tra dwi’n gwylio?
Gwyn, gwyn dy fyd
Ti’n newid bob dydd
Cannwyll fy llygaid i
Fe gei di bopeth sgen i i’w roi
’Na i ddim dy ddal di’n ôl
Dwi’n gwylio pob un peth ti’n wneud
O fore gwyn tan nos
Gydol f’oes...
O fore gwyn tan nos
Mae gweld dy wên yn codi ’nghalon
Ac mi gadwa i’r darnau i gyd
Yn gasgliad o atgofion
O’r rhyfeddod ddaeth i’m byd
A ddaeth i’m byd...
Trysor penna’r byd
Ti yw yr un
Ti yw fy nhrysor
Dy gwmni sy’n gysur i mi
Ti yw fy ffrind
Ble wyt ti am fynd?
Mae’r drws yn agored i chdi…
Gwyn, gwyn dy fyd
Dy draed yn rhydd
Pam cuddio tra dwi’n gwylio?
Gwyn, gwyn dy fyd
Ti’n newid bob dydd
Cannwyll fy llygaid i.
|
||||
5. |
Tlws
03:49
|
|||
Tlws ’di’r wên
Sy’n fy neffro i yn y bore, bore bach
Sy’n cadw ’myd i’n llon pan fydda i ar ras
Dalia’n dynn tan fydd hi’n ddiwedd dydd, ddiwedd dydd
Tlws ’di’r wlad
Lle mae’r haul yn lliwio’r tir ar ddiwrnod braf
Yn y gaeaf llwm, pan mai atgof ydi’r haf
Todda’r iâ a gad i mi weld yn glir
Gweld yn glir
O mor dlws yw’r haul ar y gorwel
O mor dlws oedd gweld cwch yn y cei
O mor dlws yw’r blodau ger y ffenest
O mor dlws yw’r byd heb ei fai
Tlws ’di’r sêr
Tlws ’di sŵn y tylluanod ganol nos
Plu yr eira’n dawel ddisgyn ar y rhos
Dalia’n dynn tan fydd hi’n doriad gwawr, yn doriad gwawr
O mor dlws yw’r haul ar y gorwel
O mor dlws oedd gweld cwch yn y cei
O mor dlws yw’r blodau ger y ffenest
O mor dlws yw’r byd heb ei fai
Mae un wên fach dlos
Fel agor y drws ar stafell llawn arian ac aur
Mae un wên fach dlos fel bod ym mharadwys
Pam na cha’ i fod yma am oes?
Tlws, Tlws, Tlws, Tlws, Tlws
Tlws, Tlws, Tlws, Tlws, Tlws...
Tlws ’di’r wlad
Lle mae’r haul yn lliwio’r tir ar ddiwrnod braf
Yn y gaeaf llwm pan mai atgof pell ’di’r haf
Todda’r iâ a gad i mi weld yn glir
Gweld yn glir
Tlws ’di’r wên
Sy’n fy neffro i yn y bore, bore bach
Sy’n cadw ’myd i’n llon pan fydda i ar ras
Dalia’n dynn tan fydd hi’n ddiwedd dydd, ddiwedd dydd.
|
||||
6. |
Pentre sydyn
02:58
|
|||
Naw mlynedd hir o wireddu ein gobeithion
Caled oedd byw ar lu o addewidion
Yng nghanol gwynt a llwch
Mae’n rhaid symud ymlaen... symud ymlaen
Naw mlynedd o anobaith ar dir diffaith
Pryd gawn ni ffrwyth i brofi ein hunaniaeth
Yn dilyn siom ar ôl siom
Mae’n rhaid symud ymlaen... symud ymlaen
Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn
Pentre sydyn ar lan yr afon
Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn
Yng nghysgod yr helyg melyn... symud ymlaen
Naw mlynedd hir a throdd y llwch yn berllan
Trwy lwybr ffos, fe ddyfriwyd dyffryn cyfan
Y drain yn troi yn wenith
Fe ddaeth yr awr... i symud ymlaen...
Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn
Pentre sydyn ar lan yr afon
Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn
Yng nghysgod yr helyg melyn... symud ymlaen.
|
||||
7. |
Eryri
02:25
|
|||
8. |
Ffilm
03:52
|
|||
Mae ’na rai isio byw yng nghysgod James Dean
A rhai isio cwmni’r haul mawr blin
Mae rhai’n dilyn sgrech y ‘Shining’ o hyd
A rhai’n gwisgo het a phonsho’n y stryd
Mae ’na rai ar y lôn sy’n flwyddyn o hir
A’r lleill ar y lôn sy’n wirion o wir
Mae rhai’n caru migldi-magldi’r trên
A rhai am gael llygaid sy’n llawer rhy glên
Mae ’na rai ar y lôn sy’n garthion i gyd
Ac eraill ar lôn helbulon ein byd
Mae ’na rai ar y lôn sy’n flwyddyn o hir
Yn wirion o wir
Ond fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd
Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd
Fel ’ma dwi’n licio byw... pob lliw, pob llun
Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd
Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd
Fel ’ma dwi’n licio byw... fy ffilm fy hun
Mae rhai’n gwisgo jîns sy’n llawer rhy dynn
Mae rhai â’u meddyliau ar gyllyll a ffyn
Mae rhai isio’r sêr i’r chwith ac i’r dde
A rhai isio marw yn Santa Fe
Mae ’na rai ar y lôn sy’n garthion i gyd
Ac eraill ar lôn helbulon ein byd
Mae ’na rai ar y lôn sy’n flwyddyn o hir
Yn wirion o wir
Ond fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd
Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd
Fel ’ma dwi’n licio byw... pob lliw, pob llun
Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd
Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd
Fel ’ma dwi’n licio byw... fy ffilm fy hun.
|
||||
9. |
Weithiau
02:21
|
|||
Weithiau mae’n rhaid gadael
I gyrraedd rhywle gwell
Weithiau mae’n anodd mentro
Weithiau mae’r siwrne’n bell
Weithiau mae’r modfeddi
Fel milltiroedd maith
Weithiau mae’n anodd gwybod
Beth yw pen y daith
Weithiau mae angen cwmpawd
I fynd o’r nos i’r dydd
A chofia mai’r cwmpawd hwnnw
Falle yw dy ffydd
Ac mae llwybr o dy ddrws
Yn arwain at weddill y byd.
|
||||
10. |
Machlud
00:51
|
|||
11. |
Gwallt y forwyn
03:37
|
|||
Welaist ti’r llanw ar doriad y wawr?
Welaist ti’r gwartheg yn gorwedd i lawr?
Welaist ti’r wylan i mewn yn y tir?
Welaist ti’r dilyw ar ddiwedd y dydd?
Glywaist ti’r gadair yn gwichian ei chŵyn?
Glywaist ti’r gnocell yn crio yn y llwyn?
Glywaist ti’r frân yn gweiddi ei rheg?
Glywaist ti’r terfysg yn symud yn nes?
Ond mi wn er pob gofid, daw eto’n glir
A daw’r heulwen i d’wynnu cyn bo hir
Ac mi wn er bod tonnau, a’r siwrnai’n faith
Y daw’r forwyn i dywys fy nhaith
Welaist ti’r dewin yn gwisgo ei gôt?
Welaist ti’r awyr yn llwyd gyda’r nos?
Welaist ti’r lleuad yn boddi yn y nen?
Welaist ti’r dail yn troi ar eu cefn?
Doedd neb yn disgwyl ’sa’r porth wedi cau
Doedd neb yn disgwyl i’r gaeaf nesáu
Doedd neb yn disgwyl ’sa hi’n bwrw fel hyn
Doedd neb yn disgwyl hen wragedd a ffyn
Ond mi wn er pob gofid, daw eto’n glir
A daw’r heulwen i d’wynnu cyn bo hir
Ac mi wn er bod tonnau, a’r siwrnai’n faith
Y daw’r forwyn i dywys fy nhaith.
|
Streaming and Download help
If you like Brigyn, you may also like: