1. |
Cyflwyniad
00:14
|
|||
2. |
Os na wnei di adael nawr
04:03
|
|||
Dwed, dwed be sydd ar dy feddwl di
Dwed, dwed be sy’n dy rwystro di
Dwed, dwed, fe ddiflanith dy ofnau di
Dwed, dwed y geiriau sy’n mynd i wneud chdi’n rhydd
Tyrd, tyrd ar flaena ein traed fe droediwn
Tyrd, tyrd yn dawel bach fe guddiwn
Tyrd, tyrd gafael yn fy llaw i a
Tyrd, tyrd fe redwn ni o’ma
Ti’n gwybod be fydd dy hanes di os na wnei di adael nawr
’Run sefyllfa yn troi’n hunllef, os na wnei di adael nawr
Clyw, clyw mae rhyddid yn galw
Clyw, clyw mae pob man yn ddistaw
Clyw, clyw dy gyfle am fywyd gwell
Clyw, clyw rhywle sy’n ddigon pell
Ti’n gwybod be fydd dy hanes di os na wnei di adael nawr
’Run sefyllfa yn troi’n hunllef, os na wnei di adael nawr.
|
||||
3. |
Bohemia bach
04:23
|
|||
Croeso i Bohemia bach, rhyddid barn yw’r hud
Sy’n glynu pobl o bob math i yfed coffi drud
Croeso i Bohemia bach, lle mae pawb yn gytûn
Sgyrsiau celfydd am gelwydd y byd, a ddylwn i fynegi fy hun?
“It’s always so friendly, always so fine, to tell you all what’s on my mind.”
“It’s alright”
Croeso i Bohemia bach, lleisiau’n llenwi’r lle
Datrus dryswch rhwng y doeth ar dwl, rhywle rhwng uffern a’r nef
“It’s always so friendly, always so fine, to tell the world what’s on your mind.”
“It’s alright”.
|
||||
4. |
Llipryn
03:42
|
|||
Cerddai ar hyd y gorwelion cudd
heb gwmni, yn unig ar ben ei hun
Creadur â’i ben yn y cwmwl du
Yn y glaw, ar goll, ac yn gwbl fud
Ar goll yn meddwl am ddim byd
Am ddim byd, am ddim byd, am ddim byd
Digyfeiriad yw ei lwybrau cul
Anobeithiol yw ei feddylfryd chwil
Dal i chwilio am ei lonyddwch llwyr
Athrylith, neu gwallgofddyn?
Pwy a wyr? Pwy sydd yn gwybod? Pwy a wyr?
Pwy a wyr? Pwy a wyr? Pwy a wyr?
Does neb yn sylwi
Does neb yn poeni
Am grwydryn sydd ar ben ei hun
Ar ben ei hun, ben ei hun, ar ben ei hun.
|
||||
5. |
||||
A weles di y lloeren
Yn llosgi yn y ffurfafen
Ar ddiwedd y dydd, ar ddiwedd y byd?
Gwna ddymuniad...
Mae’r creigiau yn yr afon
Fel ceiniogau yn y ffynnon
Ar ddiwedd y dydd, ar ddiwedd y byd!
Gwna ddymuniad...
|
||||
6. |
Gyrru drwy y glaw
03:52
|
|||
Gyrru drwy y glaw, dim ond awr tan ben fy siwrna
Gyrru drwy y glaw, disgwl petha mawr pan gyrhaedda i
Gyrru drwy y glaw, prin dwi’n gweld y lôn sy’n ymestyn
Mae’r weipars yn cadw bît, wrth i’r dafnau lenwi’r windscreen
Gyrru drwy y glaw, signal gwan y radio yn gwmni
Dwi’n saethu o sir i sir, yn trio cyrraedd cyn iddi nosi
A dwi’n teimlo 'mod i’n colli allan – dwi’n cario ymlaen, cario ymlaen
Gymaint o ofn 'mod i’n colli allan – dwi’n cario ymlaen, cario ymlaen
Gyrru drwy y glaw, awr yn dilyn awr o boredom
Mae fy meddwl i ar chwal, fyswn i’n licio cyrraedd cyn cychwyn
A dwi’n teimlo 'mod i’n colli allan – dwi’n cario ymlaen, cario ymlaen
Gymaint o ofn 'mod i’n colli allan – dwi’n cario ymlaen, cario ymlaen.
|
||||
7. |
Sonar
02:24
|
|||
8. |
Angharad
04:07
|
|||
Cydia yn bob atgof, dysg y gwersi anodd
O mor drist oedd dy weld ti’n gadael â gymaint ar dy ôl.
A dwi’n methu coelio, sut aiff dyddiau heibio
O mor drist oedd dy weld ti’n gadael â gymaint ar dy ôl.
Heno mae Angharad yn fy atgoffa i,
nosweithiau hir yr haf na ddaeth i ben.
Heno mae Angharad yn fy atgoffa i,
sut gwnaeth hi droi fy nagrau nôl i wên.
Heno wrth i’r haul fachlud arna i, nai’m digaloni oherwydd
Heno mae Angharad gyda fi.
|
||||
9. |
Abacus
05:18
|
|||
10. |
Disgyn wrth dy draed
03:55
|
|||
Yr unig beth o’n i eisiau oedd bywyd syml braf
Ond yr hyn, sgenai ddim, ’di’r ewyllys i fod yn dda
Yr unig beth o werth oedd genai, fe wnes i luchio fo’i gyd yn ôl
Be dwi’n neud, be dwi’n ddeud? Fi di’r unig un ffôl
A dyma fi yn disgyn wrth dy draed, yn erfyn arnat ti fadda i mi
A dyma fi yn disgyn wrth dy draed, rho un cynnig arall i mi
Ie, ie, dwi’n difaru
Ie, ie, ac mae’n ddrwg gennyf fi
Yn credu fod fy nghamau’n rhai pendant, y ffordd yn hir a syth
Ond dyw’r gwir, ddim yn glir, sgwni os fydd o byth
Mor ddall ac yn fyddar i’m myd, yn gloff ac yn neb hebdda ti
Lle dwi’n troi, lle dwi’n ffoi, pan mae pethau yn mynd o chwith
A dyma fi yn disgyn wrth dy draed, yn erfyn arnat ti fadda i mi
A dyma fi yn disgyn wrth dy draed, rho un cynnig arall i mi
Ie, ie, dwi’n difaru
Ie, ie, ac mae’n ddrwg gennyf fi.
|
||||
11. |
Lleisiau yn y gwynt
04:33
|
|||
Weithiau dwi’n gofyn i fy hun, ydw i di neud y dewis cywir?
Weithia dwi’n ama fod y byd i gyd yn troi yn fy erbyn,
Weithia dwi’n teimlo 'mod i’n haeddu gwell, ond lle mae y llwybr clir?
Yn ara bach fe ddaw na obaith im cwyn pan ddes ti nôl im harwain.
Dwi’n clwad lleisiau yn y gwynt yn sibrwd dy enw
Dwi’n clwad lleisiau yn y gwynt yn cyfeirio’r ffordd i fynd
Dwi’n clwad lleisiau yn y gwynt yn sibrwd dy enw
Dwi’n clwad lleisiau yn y gwynt, yn y gwynt.
Pan mae breuddwydion yn dod yn wir, wti’n synhwyro fod rhywyn yn gwrando
Ar bob gweddi ti’n ddeud, ar bob cam wyt ti’n neud
Bob penderfyniad ti’n neud bob eiliad.
Dwi’n clwad lleisiau yn y gwynt yn sibrwd dy enw
Dwi’n clwad lleisiau yn y gwynt yn cyfeirio’r ffordd i fynd
Dwi’n clwad lleisiau yn y gwynt yn sibrwd dy enw
Dwi’n clwad lleisiau yn y gwynt, yn y gwynt.
|
Streaming and Download help
If you like Brigyn, you may also like: