Swatia’n dawel bach, fy nghyw
Swatia’n dawel bach, fy nghyw,
anghofia’r byd o’th gwmpas
y gwynt sy’n chwipio blodau’r Garn,
yn oeri tai y ddinas.
A thithau’n swatio’n dawel bach,
A thithau’n swatio’n dawel bach,
mae sôn am gau y ffiniau,
am gadw’r bobl ar wahân
a’r werin ar ei gliniau.
A thithau’n swatio’n dawel bach
A thithau’n swatio’n dawel bach,
gwaiff dyn ei frawd yn elyn.
Pan dyfi’n ddyn, fy machgen tlws a
brofi dithau’r gwenwyn?
Mae’r nos yn llawn cysgodion blin
a minnau’n hawdd fy nychryn
ond pan ddaw’th wên i liwio’r wawr
daw haul i ddrws fy mwthyn.
A thithau’n swatio’n dawel bach
A thithau’n swatio’n dawel bach,
mae’n daear ni yn diodda’,
pan dyfi’n hŷn a fydd hi’n waeth,
yn gaeth i’w gwely anga’?
A thithau’n swatio’n dawel bach
A thithau’n swatio’n dawel bach,
rwy’n ymbil, rwy’n gobeithio
y byddi di a’th ffrindiau’n gryf,
yn well na ni, yn llwyddo
Mae’r nos yn llawn cysgodion blin
a minnau’n hawdd fy nychryn
ond pan ddaw’th wên i liwio’r wawr
daw haul i ddrws fy mwthyn...
i ddod â chariad nôl i’r byd,
i ddod â chariad nôl i’r byd,
i weld be sydd yn cyfri,
ond swatia heno’n dawel bach,
fy machgen tlws, fy mabi.