A fynno ddewrder gwir,
O deued yma;
mae un a ddeil ei dir
ar law a hindda:
Ni all temtasiwn gref
ei ddigalonni ef
i ado llwybrau’r nef -
y gwir bererin.
Ei galon ni bydd drom
wrth air gwŷr ofnus,
ond caiff ei boenwyr siom,
cryfha’i ewyllys:
ni all y rhiwiau serth
na rhwystrau ddwyn ei nerth,
fe ddyry brawf o’i werth,
fel gwir bererin.
’D oes allu yn un man
i ladd ei ysbryd,
fe ŵyr y daw i’w ran
dragwyddol fywyd:
diysgog yw ei ffydd,
a rhag pob ofn yn rhydd
ymlaen ’r â nos a dydd
fel gwir bererin.