Mae’n oer heno, a’r lloer yn gwmni i mi.
Mae’n hwyr eto, ac adre’n teimlo’n bell.
O’r dre heno, daw sŵn i lonni ’nghalon
a phêr yw’r nodau, yn falm i deimlo’n well.
Ac wyt ti’n clywed sŵn y canu ar yr awel?
Ac wyt ti’n gweld lliwiau’r Dolig del?
Ga i dy sylw heno fel yn y gorffennol?
A cherddwn gyda’n gilydd adre’n ôl, adre’n ôl...
Mae’n oer heno,
daw dy law i ’nghadw’n gynnes
A’r sêr yn mynnu nad awn ni byth ar goll.
Ac wyt ti’n clywed sŵn carolau ar yr awel?
Ac wyt ti’n gweld lliwiau’r Dolig del?
Ga i dy sylw heno fel yn y gorffennol?
A gorwedd gyda’n gilydd adre’n ôl...
“...Ganwyd ef, O ryfedd drefn,
fel y genid ni drachefn...”
ac fel gyda’r crud ym Methlehem
down ynghyd fel y sêr uwchben.
Mae’n oer heno, a’r lloer yn gwmni difyr i ni,
a’r lloer yn gwenu’n dirion arnom ni.