Mi ganaf fy nghân i ti
yn y gaeaf milain mawr
dan yr awyr ddidostur ddu
a’r eira’n siglo i lawr.
Mi ganaf fy nghân i ti
i dy gadw’n gynnes ac yn glyd
ac yn yr oriau mân, bydd nodau’r gân,
yn ein cynnal ni o hyd,
yn ein cynnal ni o hyd.
Mi ganaf fy nghân i ti
dan ganghennau’r gwanwyn gwyrdd
i gyfeiliant y brain a’r ŵyn
a blodau min y ffyrdd.
Mi ganaf fy nghân i ti
bydd yn hafan ac yn gysgod rhag y gwres
ac ar nosweithiau braf a hithau’n fôr o haf
daw y gân â ni yn nes,
daw y gân â ni yn nes.
Mi ganaf fy nghân i ti
yn yr hydref dan y dail
lle mae’r mwg o’r tomenni aur
yn gwaedu’r gwrid o’r haul.
Mi ganaf fy nghân i ti
cân o obaith yn ein dyddiau rhyfedd ni
ac yn y dŵr a’r tân fe wnaed y gân
rwy’n ei chanu hi i ti.
Yn y dŵr a’r tân fe wnaed y gân
rwy’n ei chanu hi i ti,
yn ei chanu hi i ti.