Ar gyfer heddiw’r bore
’n faban bach, faban bach,
Y ganwyd gwreiddyn Jesse
’n faban bach;
Y Cadarn ddaeth o Bosra,
Y Deddfwr gynt ar Seina,
Yr Iawn gaed ar Galfaria
’n faban bach, faban bach,
Yn sugno bron Maria
’n faban bach.
Caed bywiol ddwfr Eseciel
ar lin Mair, ar lin Mair,
A gwir Feseia Daniel ar lin Mair;
Caed bachgen doeth Eseia,
’R addewid roed i Adda,
Yr Alffa a’r Omega
ar lin Mair, ar lin Mair;
Mewn côr ym Methle’m Jiwda, ar lin Mair.
Diosgodd Crist o’i goron,
o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er mwyn coroni Seion,
o’i wirfodd;
I blygu’i ben dihalog
O dan y goron ddreiniog
I ddioddef dirmyg llidiog,
o’i wirfodd, o’i wirfodd,
Er codi pen yr euog,
o’i wirfodd.
Am hyn, bechadur, brysia,
fel yr wyt, fel yr wyt,
I ’mofyn am dy Noddfa, fel yr wyt
I ti’r agorwyd ffynnon
A ylch dy glwyfau duon
Fel eira gwyn yn Salmon,
fel yr wyt, fel yr wyt,
Gan hynny, tyrd yn brydlon, fel yr wyt.