We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Dulog

by Brigyn

/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £8 GBP  or more

     

1.
Dôl y Plu 04:04
Cau dy lygaid, dal fy llaw i’n dynn Lleuad lawn, a gad i bopeth fynd Ble’r ei di heno? Awn i bellter byd? Mi ddaw dy gyfle, cydia, cysga’n glyd Cyn i’r bore ddeffro mae breuddwyd i’w breuddwydio cyfle i grwydro dros y tir Dilyn seren wib yn gynnes dan dy gwrlid cysga di ymhlith y plu Mae’r sêr yn swil, yn chwarae cuddio Awyr fawr, a fory’n addo Anturiaethau difyr rif y gwlith Mae’r sêr i gyd yn llawn addewid Gwarchod ni rhag pob un gofid Colli dy hun mewn byd yn llawn o hud yn Nôl y Plu Fory, fory, sgwn i ble yr ei di? Mae golau’r wawr yn galw arnat ti Heno, heno, llygaid bach yn cau Mi ddaw y bore eto i ni’n dau Cyn i’r bore ddeffro mae breuddwyd i’w breuddwydio cyfle i grwydro dros y tir Dilyn seren wib yn gynnes dan dy gwrlid cysga di ymhlith y plu Mae’r sêr yn swil, yn chwarae cuddio Awyr fawr, a fory’n addo Anturiaethau difyr rif y gwlith Mae’r sêr i gyd yn llawn addewid Gwarchod ni rhag pob un gofid Colli dy hun mewn byd yn llawn o hud yn Nôl y Plu Rho dy law, mi rof fy nghân i ti Dos â fi yn ôl i Ddôl y Plu.
2.
Hir yw’r ffordd a moel yw’r erwau hir yw’r ffordd a phell ’di’r daith gweld y siwrnai weithiau’n anodd ’di meddwl troi yn ôl sawl gwaith Fry uwchben, cymylau’n rasio gwibio heibio ar ei hynt prysur mae yr oriau’n pasio amser yn mynd efo’r gwynt Ond rhywle mae ’na afon ar ei thaith i’r môr a rhywle, mae ’na lwybr a rhywle mae ’na ddôr Does dim waliau sydd rhaid eu dymchwel does dim drysau sydd rhaid eu cau does dim terfyn, na dim ffiniau gorwelion newydd yn nesáu Heno mae ’na leuad newydd yn taflu ei olau dros y tir ac ysbryd newydd sydd ar gychwyn mae pen y daith i’w weld yn glir Ond rhywle mae ’na afon ar ei thaith i’r môr a rhywle, mae ’na lwybr a rhywle mae ’na ddôr. [Emyr Huws Jones]
3.
Ana 02:42
Ana, o’r ddinas arian Dilyn llwybrau dy daid cloddio am aur a gwarchod y gwreiddiau hyn Ana, o’r ddinas arian er gwawd a gofid i rai bwriaist ffrwyth dy lafur dros fwrdd ein bro Taena dy liain dros y byrddau Taena dy angerdd drwy’n calonnau Teimlwn y croeso sydd yma sŵn hen emynau a gynn’odd y fflam Ana, o’r ddinas arian Dilyn llwybrau dy daid cloddio am aur a gwarchod y gwreiddiau hyn Taena dy liain dros y byrddau Taena dy angerdd drwy’n calonnau Teimlwn y croeso sydd yma sŵn hen emynau a gynn’odd y fflam Ana, yn ôl o dref Steffan Yn ôl i Blas y Coed Yn ôl i gydio’n y geiriau a chario traddodiad oes. [Esyllt Nest Roberts de Lewis / Ynyr Gruffudd Roberts]
4.
Llwybrau 04:11
Dwi ’di treulio fy amser yn crwydro y wlad Gwario pob ceiniog i gyd Teimlo fy mod i yn galw a galw Ond neb yma i ateb fy nghri Dwi ’di llusgo ’nhraed drwy y llwch yn Nhreorki Gadael Tir Halen ers tro Chwilio am le tecach na Tecka i orffwys Cyrraedd Cwm Hyfryd a’r fro Dwi ’di teithio hyd f’oes ar un llwybr hir sydd yn arwain atat ti rŵan dwi yma, mi arhosa i, tan bora a gafael ynot ti Fues i’n chwilio am rywun dros diroedd maith Llusgo fy nhraed lawer gwaith pedwar can milltir nes y ca’ i dy deimlo di’n agos rŵan dwi’n gwybod ble yr a’ i Dwi ’di teithio hyd f’oes ar un llwybr hir sydd yn arwain atat ti rŵan dwi yma, mi arhosa i, tan bora a gafael ynot ti.
5.
Malacara 03:32
Malacara, Malacara, el Malacara, que me salvó la vida Malacara, Malacara, ti achubodd fy mywyd i Pedwerydd o Fawrth Pedwar ar antur Dilyn yr afon i chwilio am aur Un wyth wyth pedwar O Hafn y Glo Y sgrechian aflafar A phedwar ar ffo Picell yr Indiaid y n trywanu fy nghoes tri wedi eu dal a wna i ddianc i’r nos? Malacara, Malacara, el Malacara, que me salvó la vida Malacara, Malacara, ti achubodd fy mywyd i Cylch y gelyn wedi ei hollti yn ddau Carlamu fel mellten i’r ffos sydd o ’mlaen Gyda minnau’n ei annog fe neidiodd yr hafn Er syrthio am eiliad fe lamodd ymlaen Malacara, Malacara, el Malacara, que me salvó la vida Malacara, Malacara, ti achubodd fy mywyd i Un llanc ifanc a’m meddwl ar ddianc Wnes i ddim edrych yn ôl Fe garlamodd drwy’r nos Malacara, Malacara, el Malacara, que me salvó la vida Malacara, Malacara, ti achubodd fy mywyd i.
6.
Dwi’m isio colli fy ngwreiddiau, gadael cynefin, fy nghartref a’m gwlad, dwi ddim isio gadael y tiroedd a’r bobl, neidio i’r cyfrwy heb ystyried i ble’r af, dwi ddim isio bod fel y gwynt yn mynd trwy fywyd i rywle fel rhywun o’i go, heb enaid, heb famwlad, heb dir – mae cariad yma’n aros, fan hyn, yn fy mro. Dwi am aros fan hyn, yn wir, lle dwi’n teimlo bod fy haul yma i fod, lle mae’r nentydd yn canu, ie i mi, a marw lle ganwyd fi. Dwi isio bod fel y teros, bob tymor, yn mynd a dod yn eu hôl yn eu tro, dod yn ôl at y nyth, fy amddiffyn hyd byth, ym mrigau bach caled coirón, dwi isio bod fel eira mynyddoedd yr Andes mor wyn a glân, dwi isio aros fan hyn, gan blannu penillion, mor ddwfn – blodeuo mae ’nghân! Dwi am aros fan hyn, yn wir, lle dwi’n teimlo bod fy haul yma i fod lle mae’r nentydd yn canu, ie i mi, a marw lle ganwyd fi. No quiero ser como aquél que se va sin raíces hacia otro lugar, sin extrañar el paisaje y la gente, ensillar y salir sin volverse a mirar, no quiero ser como el viento que va por el mundo sin una razón, no tiene alma, no tiene terruño, no hay paisaje suyo, no tiene un amor... Yo me quiero quedar aquí, donde siento que es mío el sol, donde cantan los ríos para mí, y morirme donde nací! Quiero ser como los teros que van y que vuelven en cada estación, vuelven al nido buscando el abrigo sencillo del duro coirón, quiero ser como la nieve pariendo arroyitos en el Situación, quiero quedarme en mi tierra sembrando mis versos, igual que con ésta canción! Yo me quiero quedar aquí, donde siento que es mío el sol, donde cantan los ríos para mí, y morirme donde nací! [Alejandro Jones / Ynyr Gruffudd Roberts]
7.
Quincho 00:58
8.
Ffenest 04:25
Drwy dy ffenest, ti’n gweld dy fyd yn troi a throi ar ras o hyd rhyfeddodau i’w gweld bob dydd Drwy dy ffenest, ti’n gweld y tir a newid oes i’w weld yn glir a lliwiau’n newid ar bob mur Dy adlewyrchiad sydd yng ngwydr y ffenest a rhwng y ffrâm cei di ateb gonest ti ’di gweld y cyfan oll dyddiau caled, dyddiau gwell Gei di noddfa ger dy ffenest Rhywle braf i gadw’n gynnes Lle i weld a hel atgofion Lle i fod yn fyw a bodlon Yma aeth degawdau heibio Yma bydda i yn cofio Dyma le i godi ’nghalon bob blwyddyn gron bob blwyddyn gron Ar y ffenest mae dafnau glaw yn cuddio’r dagrau pan ddaw hiraeth am ffrindiau oes A disglair yw golau’r haul sy’n codi gwên, ysgafnu’r baich gam wrth gam fe awn ar daith Dy adlewyrchiad sydd yng ngwydr y ffenest a rhwng y ffrâm cei di ateb gonest ti ’di gweld y cyfan oll dyddiau caled, dyddiau gwell Gei di noddfa ger dy ffenest Rhywle braf i gadw’n gynnes Lle i weld a hel atgofion Lle i fod yn fyw a bodlon Yma aeth degawdau heibio Yma bydda i yn cofio Dyma le i godi ’nghalon bob blwyddyn gron bob blwyddyn gron Ac edrych drwy’r ffenest wnest bob dydd a gweld can mlynedd o newid byd braf ’di byw drwy hyn i gyd braf ’di byw bob dydd o hyd.
9.
Ti’n cofio deffro Cyn i’r ceiliog ganu ei gân? Ein calonnau ar dân A dilyn llwybrau A’r mieri yn cripio ein croen A’r gwynt yn ein dwrn Ti a fi yn erbyn y byd... Ti a fi â’n traed yn rhydd... Ti’n cofio cuddio A rhedeg - mae’n amser ffoi Cyn i’r llanw’n cloi Draw o’r pryderon am olau Melys, moes, mwy... Digon i’w osgoi Ti a fi yn erbyn y byd... Ti a fi â’n traed yn rhydd... ’Run addewid ges di Yr un geiriau glywes i Bydd yr ardd yn llawn o rosod Fe gawn weld yn glir Does dim bai arnom ni - Er bydd ein henwau’n bridd Fe gawn ddeffro fel un Byw mewn delfryd bob dydd Yn ein byd newydd ni Ti a fi yn erbyn y byd... Ti a fi â’n traed yn rhydd... Ti’n cofio rhuthro Llithro a syrthio i’r llawr Ond fe godwn yn dal A thra bod angerdd A ffydd a chariad yn gryf Fyddwn ni byth ar chwâl.
10.
Naw mlynedd hir o wireddu ein gobeithion Caled oedd byw ar lu o addewidion Yng nghanol gwynt a llwch Mae’n rhaid symud ymlaen... symud ymlaen Naw mlynedd o anobaith ar dir diffaith Pryd gawn ni ffrwyth i brofi ein hunaniaeth Yn dilyn siom ar ôl siom Mae’n rhaid symud ymlaen... symud ymlaen Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn Pentre sydyn ar lan yr afon Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn Yng nghysgod yr helyg melyn... symud ymlaen Naw mlynedd hir a throdd y llwch yn berllan Trwy lwybr ffos, fe ddyfriwyd dyffryn cyfan Y drain yn troi yn wenith Fe ddaeth yr awr... i symud ymlaen... Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn Pentre sydyn ar lan yr afon Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn Yng nghysgod yr helyg melyn... symud ymlaen.

about

Barely a year since the release of 'Brigyn4', a brand new collection of songs was released under the title 'Dulog' (Armadillo), named after the little creature that can be seen in Patagonia.

And the Patagonian theme certainly runs strongly through the album - with direct references to the interesting history of 'Y Wladfa' and it's people throughout the songs ['Malacara', 'Ana', 'Dôl y Plu' and 'Pentre sydyn' to name but a few].

The album concluded a year of special events to celebrate the 150th anniversary of Y Wladfa - the Welsh settlement in Patagonia.

There is a very special appearance by two other brothers on the album - Alejandro and Leonardo Jones, of Trevelin in the Andes. Both Alejandro and Leonardo took part in the 'Lap of Wales Challenge' with Rhys Meirion and several others over the summer, and in-between the travelling, they visited the studio with Brigyn - with both sets of brothers singing together in Welsh, and Spanish! ['Fan hyn (Aquí)']

The sound of the Bandoneon is woven throughout the album, played beautifully by Nicolas Avila. Nico, of Comodoro Rivadavia, travelled to Wales during July this year specifically to tour Wales with Brigyn.

In addition, the duet ['Ffenest'] with Casi Wyn – whom has recently become a familiar artist in the world of pop, with songs frequently heard on BBC Radio Cymru and BBC Radio 1 – appears on the album.

And the collaborations don't end there. With a track composed by legendary songwriter Emyr Huws Jones ['Rhywle mae 'na afon'], and appearances by Osian Huw Williams (Candelas/Siddi), Llŷr Pari (Palenco/Y Niwl), Mei Gwynedd (Big Leaves/Sibrydion) and Rob Reed (Magenta/Kompendium), there's even more to this 'Dulog' than meets the eye!

And to top it all – an unique piece of artwork by Ani Saunders appears on the cover of the album.

credits

released December 5, 2015

© Brigyn

license

all rights reserved

tags

about

Brigyn Wales, UK

contact / help

Contact Brigyn

Streaming and
Download help

Report this album or account