We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Brigyn 4

by Brigyn

supported by
/
  • Streaming + Download

    Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality download in MP3, FLAC and more.
    Purchasable with gift card

      £8 GBP  or more

     

1.
Ara deg 02:34
Gan bwyll, gan bwyll a cher ymlaen Ymlaen, heb ddim ond ffydd Hawdd clwyfo claf, haws dweud ffarwel Ond awn ni ddim yn dawel Carlamwn ninnau tua’r mynydd I mewn i’r pedwar gwynt Ac er mor hir yw pob ymaros Daw eto haul ar fryn, fan hyn Gan bwyll, gan bwyll a chwyd dy ben Paid troi dy gefn ar ddim Dim brys, dim chwys, dim poen heb gur Pob bywyd sy’n llawn dolur Carlamwn ninnau tua’r mynydd I mewn i’r pedwar gwynt Ac er mor hir yw pob ymaros Daw eto haul ar fryn, fan hyn.
2.
Fflam 03:46
Pan fydd y nos ar ddechrau, a’r dydd yn dod i ben Daw sŵn gitâr i gadw ’myd yn braf Mi ganwn hen alawon, ryw hiraeth yn fy nghalon Ar noson hwyr â choelcerth yn yr haf Mae’r tân yn clecian ac mae’r mŵg yn llenwi’r aer Yng nghwmni’r lleuad llawn a’r sêr Mi nawn ni ddengid i ryw freuddwyd hudol fwyn Yn gaeth i’r felodi a’i swyn Tra bydd y fflam yn dal i gynnau ar y tân Mi fydda i’n dal i ganu ’nghân Tra bydd y fflam yn dal i’n cnesu gyda’i wres Mi deimla i chdi’n dod yn nes... tyrd yn nes Gorweddwn yn y glaswellt, rhoi blodau yn ein gwallt A chlymu’n hun mewn rhamant drwy y mŵg A churiad calon fydd yn gyrru’r gân o hyd A chanu wnawn drwy’r dyddiau da a drwg Mae’r tân yn clecian ac mae’r mŵg yn llenwi’r aer Yng nghwmni’r lleuad llawn a’r sêr Mi nawn ni ddengid i ryw freuddwyd hudol fwyn Yn gaeth i’r felodi a’i swyn Tra bydd y fflam yn dal i gynnau ar y tân Mi fydda i’n dal i ganu ’nghân Tra bydd y fflam yn dal i’n cnesu gyda’i wres Mi deimla i chdi’n dod yn nes... tyrd yn nes Ac os bydd y fflam yn diffodd pan ddaw’r wawr Ni fydd llwch na lludw yn ein dal ni i lawr... i lawr.
3.
Deffro 03:45
Ti’n cofio deffro Cyn i’r ceiliog ganu ei gân? Ein calonnau ar dân A dilyn llwybrau A’r mieri yn cripio ein croen A’r gwynt yn ein dwrn Ti a fi yn erbyn y byd... Ti a fi â’n traed yn rhydd... Ti’n cofio cuddio A rhedeg - mae’n amser ffoi Cyn i’r llanw’n cloi Draw o’r pryderon am olau Melys, moes, mwy... Digon i’w osgoi Ti a fi yn erbyn y byd... Ti a fi â’n traed yn rhydd... ’Run addewid ges di Yr un geiriau glywes i Bydd yr ardd yn llawn o rosod Fe gawn weld yn glir Does dim bai arnom ni - Er bydd ein henwau’n bridd Fe gawn ddeffro fel un Byw mewn delfryd bob dydd Yn ein byd newydd ni Ti a fi yn erbyn y byd... Ti a fi â’n traed yn rhydd... Ti’n cofio rhuthro Llithro a syrthio i’r llawr Ond fe godwn yn dal A thra bod angerdd A ffydd a chariad yn gryf Fyddwn ni byth ar chwâl.
4.
Gwyn dy fyd 04:18
Ti yw’r seren uwch fy mhen Sy’n ddisglair yn y nos Petawn i’n cael dy ddal yn dynn Fel angor yn y môr, yn y môr... fel angor yn y môr Ti yw fy nghysgod rhag y glaw Pan ddaw’r dilyw mawr Ffyddlon fel y machlud Ac yna pan ddaw’r wawr Pan ddaw’r wawr... Yna ar doriad gwawr Ti yw yr un Ti yw fy nhrysor Dy gwmni sy’n gysur i mi Ti yw fy ffrind Ble wyt ti am fynd? Mae’r drws yn agored i chdi… Gwyn, gwyn dy fyd Dy draed yn rhydd Pam cuddio tra dwi’n gwylio? Gwyn, gwyn dy fyd Ti’n newid bob dydd Cannwyll fy llygaid i Fe gei di bopeth sgen i i’w roi ’Na i ddim dy ddal di’n ôl Dwi’n gwylio pob un peth ti’n wneud O fore gwyn tan nos Gydol f’oes... O fore gwyn tan nos Mae gweld dy wên yn codi ’nghalon Ac mi gadwa i’r darnau i gyd Yn gasgliad o atgofion O’r rhyfeddod ddaeth i’m byd A ddaeth i’m byd... Trysor penna’r byd Ti yw yr un Ti yw fy nhrysor Dy gwmni sy’n gysur i mi Ti yw fy ffrind Ble wyt ti am fynd? Mae’r drws yn agored i chdi… Gwyn, gwyn dy fyd Dy draed yn rhydd Pam cuddio tra dwi’n gwylio? Gwyn, gwyn dy fyd Ti’n newid bob dydd Cannwyll fy llygaid i.
5.
Tlws 03:49
Tlws ’di’r wên Sy’n fy neffro i yn y bore, bore bach Sy’n cadw ’myd i’n llon pan fydda i ar ras Dalia’n dynn tan fydd hi’n ddiwedd dydd, ddiwedd dydd Tlws ’di’r wlad Lle mae’r haul yn lliwio’r tir ar ddiwrnod braf Yn y gaeaf llwm, pan mai atgof ydi’r haf Todda’r iâ a gad i mi weld yn glir Gweld yn glir O mor dlws yw’r haul ar y gorwel O mor dlws oedd gweld cwch yn y cei O mor dlws yw’r blodau ger y ffenest O mor dlws yw’r byd heb ei fai Tlws ’di’r sêr Tlws ’di sŵn y tylluanod ganol nos Plu yr eira’n dawel ddisgyn ar y rhos Dalia’n dynn tan fydd hi’n doriad gwawr, yn doriad gwawr O mor dlws yw’r haul ar y gorwel O mor dlws oedd gweld cwch yn y cei O mor dlws yw’r blodau ger y ffenest O mor dlws yw’r byd heb ei fai Mae un wên fach dlos Fel agor y drws ar stafell llawn arian ac aur Mae un wên fach dlos fel bod ym mharadwys Pam na cha’ i fod yma am oes? Tlws, Tlws, Tlws, Tlws, Tlws Tlws, Tlws, Tlws, Tlws, Tlws... Tlws ’di’r wlad Lle mae’r haul yn lliwio’r tir ar ddiwrnod braf Yn y gaeaf llwm pan mai atgof pell ’di’r haf Todda’r iâ a gad i mi weld yn glir Gweld yn glir Tlws ’di’r wên Sy’n fy neffro i yn y bore, bore bach Sy’n cadw ’myd i’n llon pan fydda i ar ras Dalia’n dynn tan fydd hi’n ddiwedd dydd, ddiwedd dydd.
6.
Pentre sydyn 02:58
Naw mlynedd hir o wireddu ein gobeithion Caled oedd byw ar lu o addewidion Yng nghanol gwynt a llwch Mae’n rhaid symud ymlaen... symud ymlaen Naw mlynedd o anobaith ar dir diffaith Pryd gawn ni ffrwyth i brofi ein hunaniaeth Yn dilyn siom ar ôl siom Mae’n rhaid symud ymlaen... symud ymlaen Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn Pentre sydyn ar lan yr afon Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn Yng nghysgod yr helyg melyn... symud ymlaen Naw mlynedd hir a throdd y llwch yn berllan Trwy lwybr ffos, fe ddyfriwyd dyffryn cyfan Y drain yn troi yn wenith Fe ddaeth yr awr... i symud ymlaen... Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn Pentre sydyn ar lan yr afon Pentre sydyn, ’da ni’n codi pentre sydyn Yng nghysgod yr helyg melyn... symud ymlaen.
7.
Eryri 02:25
8.
Ffilm 03:52
Mae ’na rai isio byw yng nghysgod James Dean A rhai isio cwmni’r haul mawr blin Mae rhai’n dilyn sgrech y ‘Shining’ o hyd A rhai’n gwisgo het a phonsho’n y stryd Mae ’na rai ar y lôn sy’n flwyddyn o hir A’r lleill ar y lôn sy’n wirion o wir Mae rhai’n caru migldi-magldi’r trên A rhai am gael llygaid sy’n llawer rhy glên Mae ’na rai ar y lôn sy’n garthion i gyd Ac eraill ar lôn helbulon ein byd Mae ’na rai ar y lôn sy’n flwyddyn o hir Yn wirion o wir Ond fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd Fel ’ma dwi’n licio byw... pob lliw, pob llun Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd Fel ’ma dwi’n licio byw... fy ffilm fy hun Mae rhai’n gwisgo jîns sy’n llawer rhy dynn Mae rhai â’u meddyliau ar gyllyll a ffyn Mae rhai isio’r sêr i’r chwith ac i’r dde A rhai isio marw yn Santa Fe Mae ’na rai ar y lôn sy’n garthion i gyd Ac eraill ar lôn helbulon ein byd Mae ’na rai ar y lôn sy’n flwyddyn o hir Yn wirion o wir Ond fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd Fel ’ma dwi’n licio byw... pob lliw, pob llun Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd Fel ’ma dwi’n licio byw fy mywyd Fel ’ma dwi’n licio byw... fy ffilm fy hun.
9.
Weithiau 02:21
Weithiau mae’n rhaid gadael I gyrraedd rhywle gwell Weithiau mae’n anodd mentro Weithiau mae’r siwrne’n bell Weithiau mae’r modfeddi Fel milltiroedd maith Weithiau mae’n anodd gwybod Beth yw pen y daith Weithiau mae angen cwmpawd I fynd o’r nos i’r dydd A chofia mai’r cwmpawd hwnnw Falle yw dy ffydd Ac mae llwybr o dy ddrws Yn arwain at weddill y byd.
10.
Machlud 00:51
11.
Welaist ti’r llanw ar doriad y wawr? Welaist ti’r gwartheg yn gorwedd i lawr? Welaist ti’r wylan i mewn yn y tir? Welaist ti’r dilyw ar ddiwedd y dydd? Glywaist ti’r gadair yn gwichian ei chŵyn? Glywaist ti’r gnocell yn crio yn y llwyn? Glywaist ti’r frân yn gweiddi ei rheg? Glywaist ti’r terfysg yn symud yn nes? Ond mi wn er pob gofid, daw eto’n glir A daw’r heulwen i d’wynnu cyn bo hir Ac mi wn er bod tonnau, a’r siwrnai’n faith Y daw’r forwyn i dywys fy nhaith Welaist ti’r dewin yn gwisgo ei gôt? Welaist ti’r awyr yn llwyd gyda’r nos? Welaist ti’r lleuad yn boddi yn y nen? Welaist ti’r dail yn troi ar eu cefn? Doedd neb yn disgwyl ’sa’r porth wedi cau Doedd neb yn disgwyl i’r gaeaf nesáu Doedd neb yn disgwyl ’sa hi’n bwrw fel hyn Doedd neb yn disgwyl hen wragedd a ffyn Ond mi wn er pob gofid, daw eto’n glir A daw’r heulwen i d’wynnu cyn bo hir Ac mi wn er bod tonnau, a’r siwrnai’n faith Y daw’r forwyn i dywys fy nhaith.

about

A decade after first releasing their music to the world, and six and a half years since their previous studio album - this was Brigyn’s long-awaited album, ‘Brigyn4’.

The album features Welsh Music Prize winner and Manic Street Preachers collaborator Georgia Ruth Williams (on ‘Gwallt y forwyn’), as well as other multi-talented artists – Mei Gwynedd (Big Leaves/Sibrydion), Osian Williams (Candelas/Siddi), Angharad Jenkins (Calan/DnA), Jon Bradford-Jones (Catrin Finch/Fflur Dafydd a’r Barf), and Rob Reed (Magenta/Kompendium).

Amongst the 11 tracks on the album are: ‘Fflam’ - which was chosen as S4C’s soundtrack for their summer 2014 promos, ‘Gwyn dy fyd’ - commissioned originally for the ‘O’r Galon’ TV series on S4C, and ‘Ffilm’ - a track that was originally composed overnight with Meirion MacIntyre Huws and Rhodri Davies as part of the ‘Unnos’ series for C2, BBC Radio Cymru. ‘Weithiau’ is co-written by Brigyn and poet Mererid Hopwood.

Additionally, 2 hidden tracks (‘Cicio teiars’ and ‘Y Sŵn’) appear on the CD format only - available from brigyn.com

credits

released November 24, 2014

© Brigyn

license

all rights reserved

tags

about

Brigyn Wales, UK

contact / help

Contact Brigyn

Streaming and
Download help

Report this album or account